Ciw-restr

Faust

Llinellau gan Yr Ysbryd (Cyfanswm: 19)

 
(0, 3) 294 Pwy a'm geilw?
 
(0, 3) 297 Amdanaf taer ofynnaist,
(0, 3) 298 O'm cylch fy hun y'm tynnaist,
(0, 3) 299 Ac weithian—
 
(0, 3) 301 Am olwg arnaf, daered oedd dy alw,
(0, 3) 302 Am weld fy ngwedd a gwrando ar fy llais;
(0, 3) 303 Gwrandewais. Wele fi! Pa ddychryn salw
(0, 3) 304 A'th ddeil, wyt Íwy na dyn? Mae'r eofn fryd?
(0, 3) 305 Mae'r fynwes oedd o'i mewn yn llunio byd?
(0, 3) 306 A feddai, a feiddiai, a chŵyddai gan wyniasu
(0, 3) 307 Am gaffael ag ysbrydion gymdeithasu?
(0, 3) 308 Ble'r wyt ti, Faust, y neb a'm galwai'n hŷ,
(0, 3) 309 Y neb â phob rhyw rym i'm ceisio fu?
(0, 3) 310 Ai ti yw ef, a'm hanadl i'w gylchynu,
(0, 3) 311 Y sydd hyd isaf wraidd ei fod yn crynu?—
(0, 3) 312 Rhyw ofnus bryf yn gwingo yn y llaid I
 
(0, 3) 315 Yn llanw Bod, yn nherfysg Rhaid,
(0, 3) 316 Treiglaf ym mhob gwedd,
(0, 3) 317 Hwnt ac yma'n gwau!